Mae iselder ôl-enedigol yn salwch iselhaol sy’n effeithio ar fenywod sydd wedi cael baban yn ddiweddar.
Fel arfer mae’n dechrau o fewn yr ychydig wythnosau neu fisoedd cyntaf ar ôl yr enedigaeth; ond gall ddod i’r amlwg ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn gyntaf y baban. Gall effeithio ar famau y mae ganddynt blant hŷn ac na chawsant unrhyw broblemau yn y gorffennol, ond mae’n fwyaf cyffredin yn dilyn beichiogrwydd cyntaf menyw ac ymhlith y sawl sydd wedi cael genedigaethau lluosog.
Bydd cael baban neu blentyn arall yn effeithio’n aruthrol ar eich bywyd a pheth naturiol yw teimlo llawer o emosiynau gwrthdrawiadol wrth i chi fynd ati i edrych ar ôl baban newydd-anedig.
Mae’r pwysau cymdeithasol i ymdopi’n berffaith o’r cychwyn cyntaf yn gosod llawer o bwysau ar fam newydd – mae wynebu lliaws o ddelweddau o ‘famau’ hapus, siriol mewn cylchgronau a hysbysebion ond yn ychwanegu at unrhyw deimladau sydd gennych eisoes o fethiant, pryder ac anobaith.
Yn aml bydd mamau ag iselder ôl-enedigol yn ei chael yn anodd ffurfio cwlwm agosrwydd â’u baban ac edrych ar ei ôl.
Y ‘baby blues’
Mae babanod newydd-anedig yn gallu mynnu llawer iawn o sylw ac nid yw’n anghyffredin i famau newydd deimlo’n lluddedig a hyd yn oed ychydig yn isel am sawl diwrnod - hyd yn oed sawl wythnos - yn dilyn yr enedigaeth. Fel arfer bydd y ‘baby blues’ hyn, fel maent yn cael eu galw, yn diflannu ar eu pen eu hun wrth i’r baban setlo i mewn i drefn arferol ac nid ydynt yn arwydd o iselder ôl-enedigol.
Pa deimlad sydd i iselder ôl-enedigol?
Mae symptomau iselder ôl-enedigol yn amrywio rhwng un fenyw a’r llall, ac yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr iselder, ond gallant gynnwys:
- gwacter ac anobaith
- crïo heb unrhyw reswm amlwg
- meddyliau negyddol
- amau’ch gallu i ofalu am eich baban
- meddwl am niweidio’ch hunan neu’r baban
- gofid am ddatblygiad eich baban
- pyliau o banig
- ychydig iawn o ddiddordeb mewn gweithgareddau pleserus, h.y. cymdeithasu, bwyd, rhyw, ac ati
- diffyg canolbwyntio
- teimlo nad oes ots am ddim byd bellach
- tynnu’n ôl o bobl eraill, gan gynnwys eich baban a’ch cymar
Tadau ac iselder ôl-enedigol
Er bod iselder ôl-enedigol yn effeithio’n bennaf ar fenywod, nid yw’n anghyffredin i dadau ei ddioddef hefyd, yn enwedig os bydd eu cymar yn isel. Cyfeirir at hyn yn aml fel iselder ôl-enedigol tadol (Saesneg yn unig).
Mae’r ffactorau risg yn cynnwys:
- bod yn rhiant am y tro cyntaf
- bod yn rhiant hŷn
- addysg gyfyngedig
- ychydig o gefnogaeth gan y teulu
- digwyddiadau eraill sy’n peri pwysau mewn bywyd ar yr un pryd
- ansawdd y berthynas â mam y baban
Seicosis postpartum (ôl-esgor)
Mae seicosis postpartum (Saesneg yn unig) yn gyflwr seiciatrig difrifol sy’n effeithio ar ganran isel o fenywod yn dilyn geni plentyn, ond gall beri bygythiad go iawn i’w hiechyd, a hyd yn oed eu bywydau.
Mae’n debycach o effeithio ar fenywod sydd wedi dioddef problemau iechyd meddwl blaenorol, yn enwedig y sawl ag anhwylder deubegynol.
Gofyn am gymorth
Efallai eich bod yn teimlo’n lluddedig ac wedi’ch gorlethu’n gyson – efallai eich bod yn digio am alwadau cyson eich baban neu’n dymuno na chawsoch chi faban yn y lle cyntaf. Nid yw teimlo felly yn rhan naturiol o famolaeth y mae’n rhaid i chi ymdopi â hi, a bydd efallai’n golygu eich bod yn ddioddef iselder ôl-enedigol.
Mae’n bwysig siarad â’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu am sut rydych yn teimlo er mwyn i chi gael y gefnogaeth mae arnoch ei angen i wella, gwrthiselyddion neu gwnsela/therapi siarad efallai, neu gyfuniad o’r ddau.
Cofiwch mai cyflwr dros dro yw iselder ôl-enedigol a fydd yn gwella gydag amser a chefnogaeth.
Mwy o wybodaeth
Mae NCT (Saesneg yn unig) yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i bob rhiant newydd, gan gynnwys gydag iselder ôl-enedigol. Ffôn: 0300 330 0700
Mae gan Mind (Saesneg yn unig) wybodaeth am ymdopi ag iselder ôl-enedigol.
Mae Amser i Newid Cymru yn dymuno dileu’r stigma a’r gwahaniaethu mae pobl â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder ôl-enedigol, yn eu hwynebu.
Am ragor o wybodaeth am feichiogrwydd, genedigaeth a phan gaiff eich baban ei eni, ewch i Ganllaw Beichiogrwydd a Babanod GIG 111 Cymru.