skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gall gwirfoddoli fod yn un o’r dulliau gorau i bobl ifanc fynd allan, dysgu sgiliau trosglwyddadwy a chwrdd â ffrindiau newydd.

Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle i bobl ifanc roi rhywbeth yn ôl i’w cymuned neu gefnogi achos sy’n bwysig iddynt, e.e. lles anifeiliaid neu faterion amgylcheddol.

Â’u bywydau mor brysur, gallai pobl ifanc feddwl nad oes ganddynt yr amser i wirfoddoli, ond y peth gwych yw bod hyd yn oed awr o’u hamser bob wythnos yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i elusen neu sefydliad bach. Os bydd ymrwymiadau ysgol yn rhwystr i gytuno i wneud rhywbeth yn rheolaidd, mae bob amser cyfleoedd un-tro i wirfoddoli, e.e. casglu sbwriel neu werthiannau moes a phryn.

Yn aml gall plant a phobl ifanc sy’n ei chael yn anodd gwneud ffrindiau â phobl eraill yr un oedran neu sy’n treulio cryn dipyn o amser ar eu pen eu hun ffynnu a magu hyder wrth dreulio amser gyda phobl sy’n rhannu diddordebau tebyg, e.e. sy’n hoffi anifeiliaid, neu’n frwdfrydig am ailgylchu.

Ennill sgiliau newydd a phrofiad bywyd

Er bod gwirfoddoli yn bleserus ac yn foddhaol ynddo ei hun, mae’n gallu helpu person ifanc i ddatblygu sgiliau gwerthfawr hefyd fel:

  • gweithio’n rhan o dîm
  • arweinyddiaeth
  • cyfathrebu
  • rheoli amser

Bydd y sgiliau hyn yn helpu i’w Datganiad Personol neu eu CV sefyll allan pan fyddant yn gwneud cais am hyfforddiant neu brifysgol, neu’n chwilio am swydd.

Mae rhai cyfleoedd gwirfoddoli yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ifanc gymryd cwrs byr neu sesiwn gyflwyno, tra bod eraill yn darparu hyfforddiant sy’n para am oes, e.e. mae Urdd Sant Ioan (Saesneg yn unig) yn dysgu cymorth cyntaf i’w cadetiaid (10-17 oed).

Gwobrau a chymwysterau

Mae gwirfoddoli yn elfen bwysig o Wobr Dug Caeredin (DofE) a Bagloriaeth Cymru.

Mae’r DofE yn disgrifio gwirfoddoli fel rhoi ‘amser i wneud rhywbeth defnyddiol heb gael eich talu (ac eithrio treuliau)’ ac yn disgwyl i’r sawl sy’n dilyn y Wobr Efydd gymryd rhan mewn gwirfoddoli ymarferol am o leiaf un awr yr wythnos am isafswm o dri mis.

Mae Bagloriaeth Cymru yn gofyn i bobl ifanc dreulio pymtheg awr ar gyfranogiad cymunedol gweithgar (Lefel Sylfaen).

Cyfleoedd gwirfoddol i bobl ifanc anabl

Mae gan bobl ifanc anabl lawer i’w roi a byddant yn ennill yr un buddion o wirfoddoli â’u cymheiriaid.

Mae Volunteering Matters Cymru (Saesneg yn unig) yn credu y gall plant a phobl ifanc wneud byd o wahaniaeth i’w cymunedau ac mae ganddo brosiectau sy’n cael eu cynnal gan ac ar ran pobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc anabl. Mae yna gyfleoedd amser llawn a rhan amser.

Cofiwch nad yw pob cyfle gwirfoddoli yn golygu gadael eich cartref – mae angen cymorth ar elusennau gyda chyfryngau cymdeithasol, TG, dylunio graffig, gweinyddiaeth ac ati hefyd. 

Pa oedran oes rhaid i wirfoddolwr fod?

Mae’r mwyafrif o gyfleoedd gwirfoddoli yn dechrau o ryw 14 oed; ond os ydy’ch plentyn yn dangos diddordeb mewn gwirfoddoli pan fydd yn ifanc, beth am chwilio am rywbeth gyda’ch gilydd, e.e. mae digwyddiadau rhedeg 5km am ddim parkrun (Saesneg yn unig) yn cael eu marsialu’n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, llawer ohonynt yn blant sy’n gwirfoddoli ochr yn ochr â’u rhieni.

Mae mwy na 50 o ysgolion yn Ne Cymru hefyd yn cymryd rhan mewn First Give felly mae’n werth holi a ydy ysgol eich plentyn chi’n cymryd rhan.

Gall plant iau wirfoddoli mewn digwyddiadau yn yr ysgol hefyd, e.e. gwerthu rhaglenni ar gyfer drama’r ysgol, neu efallai gwneud eitemau crefft er mwyn codi arian dros eu hoff elusen.

Diogelu gwirfoddolwyr ifanc

Mae gan bob sefydliad ‘ddyletswydd ofal’ dros eu holl wirfoddolwyr ac mae angen i wirfoddolwyr ifanc gael eu cadw’n ddiogel wrth wirfoddoli. Yn yr un modd,
gallai materion diogelu godi pan fydd y person ifanc ei hun yn gwirfoddoli gyda grwpiau hawdd eu niweidio gan gynnwys plant eraill.

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi cyhoeddi taflen, Involving Young People as Volunteers (Saesneg yn unig).

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am leoliad gwirfoddoli eich plentyn, mae’n bwysig eu codi gyda’r sefydliad ar unwaith.

Diweddariad diwethaf: 23/02/2023