skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Yng Nghymru, yn debyg i weddill y DU, mae addysg yn orfodol ond nid felly mynd i’r ysgol.

Mae hyn yn golygu bod gan riant yr hawl i addysgu eu plentyn gartref, naill ai’n llawn-amser neu’n rhan-amser. Yr enw ar hyn yw bod plentyn yn cael ei addysgu gartref neu addysg ddewisol yn y cartref.

Weithiau mae rhieni’n teimlo eu bod hwythau mewn sefyllfa well i fodloni anghenion ac arddull addysg unigol eu plentyn nag ysgol.

Nid oes unrhyw ofyniad i chi fod yn athro neu athrawes, na meddu ar unrhyw gymwysterau. 

Mae plant yn derbyn addysg yn y cartref am lawer o resymau, gan gynnwys:

  • amharodrwydd neu anallu plentyn, e.e. oherwydd salwch cronig, i fynychu ysgol
  • anfodlonrwydd â’r system addysg yn gyffredinol
  • pellter neu fynediad i ysgol leol
  • fel ateb i broblemau yn yr ysgol, e.e. syrthio ar ei hôl neu fwlio
  • rhesymau ideolegol
  • credoau crefyddol neu ddiwylliannol

Weithiau mae plentyn yn derbyn ei addysg yn yr ysgol yn rhan-amser ac yn y cartref am weddill yr amser – sef addysgu hyblyg.

Yr hawl i addysg

O dan adran 7 Deddf Addysg 1996, mae dyletswydd arnoch chi fel rhiant i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn derbyn addysg llawn-amser effeithlon sy’n addas am ei oedran, ei allu a’i gymhwyster ac am unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddo.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn datgan bod gan blentyn yr hawl i ‘ddysgu a mynd i’r ysgol’ (Erthygl 28).

Y Cwricwlwm i Gymru

Nid oes rhaid i chi ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol; fodd bynnag, mae’n rhaid i chi sicrhau bod unrhyw blentyn o oedran ysgol gorfodol (fel arfer 5 - 16 blwydd oed) yn derbyn addysg llawn-amser sy’n diwallu’r gofynion cyfreithiol.

Yn fras, mae hyn yn golygu y dylai’r addysg a ddarparwch ganiatáu i’ch plentyn gyflawni ei botensial a’i baratoi am fywyd fel oedolyn.

Gallai fod o gymorth i chi wrth gynllunio gwersi ac asesu cynnydd eich plentyn os defnyddiwch y cwricwlwm cenedlaethol presennol. Ewch i Dysgu Cymru am ragor o wybodaeth.

Cymryd eich plentyn allan o’r ysgol

Os yw’ch plentyn wedi bod yn mynychu ysgol yn barod, mae’n rhaid i chi hysbysu pennaeth yr ysgol yn ysgrifenedig os ydych yn bwriadu ei gymryd allan o’r ysgol. Yna byddant yn tynnu’r plentyn oddi ar gofrestr dderbyniadau’r ysgol fel na fyddwch yn agored i’ch erlyn am fethu â sicrhau bod eich plentyn yn mynychu’r ysgol.

Os ydych yn cymryd eich plentyn allan o ysgol yn gyfan gwbl, rhaid i’ch ysgol dderbyn eich penderfyniad.

Os ydych am anfon eich plentyn i'r ysgol am rywfaint o’r amser, rhaid i’r ysgol gytuno i hyn ddigwydd – ac maent yn cael gwrthod.

Dweud wrth y cyngor lleol

Nid oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i ddweud wrth eich cyngor lleol eich bod yn rhoi addysg i’ch plentyn yn y cartref os nad yw erioed wedi cael ei gofrestru gydag ysgol; fodd bynnag, gallech chi fod yn colli cymorth a chyngor proffesiynol cadarn os na wnewch.

Er nad oes unrhyw ddyletswydd iddynt wneud hynny, mae rhai cynghorau yn cyfrannu at gost sefyll arholiadau allanol felly mae’n werth holi.

Cadw llygad ar bethau

Mae Deddf Addysg 1996 yn gosod dyletswydd ar gynghorau lleol i gymryd camau os byddant yn credu nad yw plentyn sy’n derbyn addysg yn y cartref yn derbyn addysg addas. Byddant efallai’n gofyn am gael ymweld â’ch cartref i’ch helpu i oresgyn unrhyw anawsterau ac unioni unrhyw ddiffygion.

Os cred y cyngor nad yw’ch plentyn yn derbyn addysg addas yn y cartref, rhaid iddynt gyflwyno gorchymyn mynychu’r ysgol i chi. Mae hyn yn golygu y gallech chi gael eich dirwyo neu eich erlyn os nad ydych yn cofrestru’ch plentyn gyda’r ysgol sy’n cael ei henwi.

Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol

Mae’r gyfraith am ddarparu addysg yn y cartref yr un mor berthnasol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY); ond mae rhai ystyriaethau pellach.

Os oes gan eich plentyn Gynllun Addysg Unigol, nid yw hyn yn dod i ben yn awtomatig pan fyddwch yn ei gymryd allan o’r ysgol. Wrth adolygu’r Cynllun, gall y cyngor benderfynu bod anghenion dysgu ychwanegol y plentyn yn cael eu bodloni gartref nawr a, gyda’ch cytundeb chi, gall y Cynllun gael ei ddirwyn i ben.

Mewn sefyllfaoedd pan nad yw anghenion dysgu ychwanegol y plentyn yn cael eu bodloni gan ei addysg gartref, yna bydd y Cynllun yn parhau a bydd gan y cyngor ran i’w chwarae o hyd.

Mwy o wybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor ar gyfer rhieni a gofalwyr.

Mae Elective Home Education Wales (Saesneg yn unig) yn cefnogi’r sawl sy’n darparu addysg yn y cartref yng Nghymru ac yn rhestru grwpiau lleol.

Mae The School Run (Saesneg yn unig) yn adnodd ar-lein da i rieni sy'n addysgu eu plant gartref.

Diweddariad diwethaf: 21/02/2023