Rydym yn aml yn meddwl am gamdriniaeth fel rhywbeth sy’n digwydd yng nghartrefi pobl eu hun. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, gall camdriniaeth ddigwydd mewn sefydliadau fel cartrefi gofal, cartrefi nyrsio ac ysbytai, sydd i fod i edrych ar ein hôl a gofalu amdanon ni pan fyddwn ni’n sâl, neu’n methu ag edrych ar ôl ein hunain ragor.
Mae cam-drin sefydliadol yn digwydd weithiau oherwydd bod staff yn dod mor gyfarwydd â gwneud pethau mewn ffordd arbennig fel nad ydynt yn sylweddoli bod eu gweithredoedd yn gamdriniol, e.e. anwybyddu dewisiadau rhywun neu ruthro rhywun fel bod eu hurddas personol yn cael ei beryglu.
Mae pethau bach, di-nod yn cael eu hanwybyddu nes bod y diwylliant yn dod yn un sy'n cyfyngu ar urddas, preifatrwydd, dewis, annibyniaeth a boddhad.
Enghreifftiau a dangosyddion camdriniaeth sefydliadol
Mae camdriniaeth sefydliadol yn gallu cynnwys:
- methu â pharchu neu gefnogi hawl unigolyn neu grŵp i annibyniaeth, neu ddewis
- diffyg cynlluniau gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, neu drefn ofal anhyblyg
- dim hyblygrwydd o ran amserau gwely neu godi neu ddeffro rhywun yn fwriadol
- caethiwo, atal neu gyfyngu rhywun yn amhriodol
- diffyg dillad neu eiddo personol
- mannau byw llwm, amgylchedd difreintiedig neu ddiffyg symbyliad
- amgylchedd anniogel neu anhylan
- diffyg dewis o ran addurniad neu agweddau eraill ar yr amgylchedd
- diffyg dewis o ran bwyd neu fwydlenni neu gynllunio’r fwydlen
- staff neu reolwyr yn ymhél yn ddiangen â chyllid personol
- defnydd amhriodol o weithdrefnau nyrsio neu feddygol
- defnydd amhriodol o bŵer neu reolaeth.
Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n amau bod camdriniaeth sefydliadol yn digwydd?
Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi profi neu weld sefyllfa o gam-drin, cysylltwch â Thîm Diogelu Gwasanaethau Cymdeithasol eich cyngor lleol am gymorth a chyngor.
Does dim rhaid i chi ddweud pwy ydych chi, er bod hyn efallai’n ei gwneud yn fwy anodd i’r gwasanaethau cymdeithasol ymchwilio a’ch amddiffyn chi neu’r sawl sy’n cael ei gam-drin.
Os ydych chi’n teimlo’n nerfus am siarad â gwasanaethau cymdeithasol, gallech chi ofyn i rywun siarad â nhw ar eich rhan. Gallai hyn fod yn nyrs, yn ofalwr, yn eiriolwr neu’n ffrind neu berthynas rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw.
Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi’r cymorth a’r cyngor mae arnoch chi eu hangen i’ch helpu i wneud unrhyw benderfyniadau a byddan nhw’n eich helpu i gymryd camai i roi terfyn ar y gamdriniaeth a sicrhau nad yw’n digwydd eto.
Caiff yr hyn a ddwedwch wrthyn nhw ei drin yn sensitif ond mae’n bosib y bydd rhaid iddyn nhw ddweud wrth bobl eraill er mwyn eu helpu nhw i ymchwilio i’r pryder.