skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’n demtasiwn meddwl mai rhywbeth o’r gorffennol yw caethwasiaeth, ond nid felly mae hi.

Caethwasiaeth fodern yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i gwmpasu caethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur dan orfod neu orfodol yn ogystal a masnachu pobl. Mae’n bodoli mewn amrywiaeth eang o ffurfiau creulon. Mae’n cynnwys pobl yn cael eu gorfodi i mewn i buteindra neu fathau eraill o gamfanteisio rhywiol. Mae’n cynnwys pobl yn cael eu gorfodi i weithio am dâl isel iawn, neu’n gwbl ddi-dâl, weithiau o fewn cartref y sawl sy’n cyflawni’r gaethwasiaeth.

Pan fydd person yn amddifadu person arall o’u rhyddid, yn arfer rheolaeth drostyn nhw fel nad ydyn nhw’n rhydd i wneud eu dewisiadau eu hunain, ac yn trin y person arall hwnnw fel petaen nhw’n berchen arnyn nhw, yna mae’n debygol y bydd camau o’r fath yn cyfrif fel caethwasiaeth.

Yn aml, bydd fictimau caethwasiaeth yn cael eu symud o gwmpas, neu eu masnachu, gan y sawl sy’n eu rheoli. Mae person yn cael ei fasnachu os ydyn nhw’n cael eu dwyn i wlad (neu eu symud o gwmpas gwlad) gan bobl eraill sy’n eu twyllo, eu bygwth, eu brawychu, eu hanafu neu’n eu gorfodi nhw i wneud gwaith neu bethau eraill nad ydyn nhw eisiau eu gwneud.

Yn aml, mae’r fictimau yn bobl sy’n hawdd eu niweidio, sy’n cael eu twyllo i mewn i fasnachu a chaethwasiaeth gan addewidion ffug am swyddi, addysg a hyd yn oed cydberthnasau cariadus. Er mai mudwyr yw llawer o fictimau, sydd wedi cael eu masnachu i mewn i’r Deyrnas Unedig o wledydd eraill, gallant hefyd fod wedi eu geni a byw yn y DU.

Sut i adnabod fictim posibl caethwasiaeth

Mae arwyddion caethwasiaeth a chamfanteisio ynghudd yn aml, gan ei gwneud yn anodd adnabod fictimau posibl. Mae fictimau yn gallu bod o unrhyw oedran, yn ddynion neu’n fenywod, ac unrhyw genedligrwydd. Bydd rhai efallai yn blant a phobl ifanc hyd yn oed. Ond mae’r canlynol ymhlith yr arwyddion cyffredin, Efallai eu:

  • bod â diffyg maeth a gwisgo'n wael, gydag ychydig o eiddo personol, a gwisgo dillad nad ydynt yn addas ar gyfer eu gwaith
  • bod nhw'n cael anafiadau corfforol, neu arwyddion o anafiadau hen neu ddifrifol heb eu trin
  • bod yn ymddangos yn encilgar neu'n ofnus
  • bod nhw'n methu ag ateb cwestiynau a gyfeiriwyd atynt neu siarad drostynt eu hunain, neu gael rhywun arall i siarad ar eu rhan
  • bod yn anghyson yn y wybodaeth a ddarperir ganddynt, gan gynnwys ffeithiau sylfaenol fel lle maent yn byw
  • bod nhw ddim yn meddu ar bethau fel pasbortau, manylion adnabod neu fanylion cyfrif banc

Beth i’w wneud os ydych chi’n credu bod rhywun yn fictim

Os ydych chi’n amau bod rhywun efallai yn fictim caethwasiaeth fodern, yna cysylltwch â Thîm Diogelu eich cyngor. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn hysbysu am y pryder a pheidiwch â phoeni os credwch y gallech chi fod yn anghywir o bosib – mae’n dal yn bwysig i rywun â phrofiad a chyfrifoldeb edrych i mewn i’r mater. 

Hefyd cewch chi ffonio 101 sef rhif yr heddlu pan nad yw’n argyfwng. Os credwch fod rhywun mewn perygl uniongyrchol, dylech chi ffonio 999.

Os credwch fod trosedd efallai wedi cael ei chyflawni, fel trais, ymosodiad neu ladrad, ffoniwch yr heddlu a byddwch yn ofalus i beidio â symud neu ddifa unrhyw dystiolaeth.

Os ydych chi’n fictim

Os ydych chi wedi’ch maglu mewn caethwasiaeth fodern, mae yna help ar gael i chi. Gallwch chi ffonio’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 08000 121 700, neu Linell Gymorth Byddin yr Iachawdwriaeth ar 0800 303 8151. Neu gallwch chi alw’r heddlu neu’ch cyngor lleol.

Os cewch chi’n adnabod fel fictim caethwasiaeth, yna bydd gennych chi hawl i dderbyn:

  • help ac amddiffyniad gan y Llywodraeth, sy’n cael eu darparu ar sail gyfrinachol
  • cefnogaeth os penderfynwch chi siarad â’r heddlu
  • cymorth emosiynol, meddygol ac ymarferol annibynnol, a allai gynnwys dod o hyd i lety diogel dros dro i chi, eich helpu gyda thriniaeth feddygol, cael rhywun i’ch helpu i ymdopi â’ch profiad, a rhywun i’ch helpu i gyfathrebu yn Saesneg

Mae mwy o wybodaeth am fasnachu a chaethwasiaeth fodern yma (Saesneg yn unig).

Diweddariad diwethaf: 04/05/2023