skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn onest, ond mae rhai unigolion diegwyddor sydd â diddordeb mewn cymryd eich arian oddi wrthych yn unig.

Byddan nhw efallai’n dymuno eich twyllo i mewn i roi arian iddyn nhw neu dalu am rywbeth nad oes arnoch chi ei angen, neu efallai y byddant yn ceisio dwyn arian a/neu bethau gwerthfawr oddi wrthych.

Yn anffodus, mae rhai pobl yn fwy tebygol o fod yn darged i’r masnachwyr twyllodrus hyn, y troseddwyr carreg drws a’r sgamwyr hyn, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i amddiffyn eich hun a’i gwneud yn anoddach iddyn nhw.

Bwrgleriaeth drwy dynnu sylw

Bwrgleriaeth drwy dynnu sylw yw pan fydd galwyr ffug yn ceisio twyllo eu ffordd i mewn i’ch cartref i dwyn arian a phethau gwerthfawr. Mae’r lladron yn gallu ymddangos yn ddiffuant a byddan nhw’n cymryd arnyn nhw eu bod o’r cyngor neu gwmni cyfleustodau.

Maent yn aml yn gweithio mewn parau, neu hyd yn oed gyda phlant. Bydd un yn eich cadw i siarad wrth y drws ffrynt tra bydd y llall yn ceisio cael mynediad i'ch tŷ trwy ddrws cefn neu ffenestr. Mae rhai hyd yn oed yn pledio am help, efallai yn gofyn am wydraid o ddŵr neu fynediad i doiled.

Beth i’w wneud:

  • gofynnwch am eu cerdyn adnabod a gwiriwch ef yn ofalus. Cadwch y rhifau ffôn am eich gwasanaethau nwy, trydan a dŵr wrth law – fel yna gallwch chi ffonio’n rhwydd a gwirio pwy yw swyddog
  • ymunwch â chynlluniau cyfrinair eich cwmnïau nwy neu drydan. Dyma lle rydych chi’n trefnu cyfrinair gyda’r cwmni er mwyn gwirio bod eu cynrychiolwyr yn rhai dilys

Masnachwyr twyllodrus a galwyr digroeso

Bydd masnachwyr twyllodrus yn curo ar eich drws neu’n eich ffonio i gynnig gwasanaethau nad oes eu hangen arnoch. Efallai y byddant yn ceisio eich gwthio i gytuno i atgyweiriadau neu welliannau cartref diangen, yn aml am brisiau dirdynnol, e.e. materion honedig gyda'ch to neu wynebfyrddau. Unwaith y byddan nhw'n credu eich bod chi'n agored i niwed, byddan nhw'n parhau i ddod o hyd i fwy o swyddi maen nhw'n dweud sydd angen eu gwneud.

Beth i’w wneud:

  • peidiwch â chytuno i lofnodi contract neu roi arian iddyn nhw nes eich bod wedi siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw.
  • peidiwch byth â datgelu’ch rhif PIN na gadael i neb eich perswadio i roi’ch cerdyn banc iddyn nhw. Peidiwch byth â gadael i rywun fynd â chi i’r banc i dynnu. arian parod i wneud taliad.
  • peidiwch ag ofni gofyn i werthwr adael. Os ydyn nhw’n gwrthod, galwch yr heddlu.

Casgliadau elusennol ffug

Efalai y bydd twyllwr yn curo ar eich drws ac yn gofyn i chi roi arian, dillad neu nwyddau cartref ar gyfer elusen. Mewn gwirionedd, cast yw hyn i geisio dwyn arian oddi wrthych chi. Caiff unrhyw eitemau a roddwch chi eu gwerthu ymlaen.

Beth i’w wneud:

  • Mae’n rhaid i elusennau go iawn gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau a dangos manylion eu cofrestriad ar sachau ac amlenni casglu.
  • Gwiriwch y rhif elusen gofrestredig ar wefan y Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig). Gallwch chi eu hysbysu am dwyll rhoddion elusennol hefyd.
  • Cofiwch fod llawer o ffyrdd eraill o roi i elusen, felly peidiwch byth â theimlo’n euog am ddweud na wrth rywun sy’n curo ar eich drws.

Arolygon defnyddwyr ffug

Mae rhai sgamwyr yn gofyn i chi gwblhau arolwg er mwyn iddyn nhw gael gafael ar eich manylion personol, neu ei ddefnyddio’n esgus dros eich perswadio i brynu rhywbeth nad ydych chi wir ei eisiau na’i angen.

Beth i’w wneud:

  • gofynnwch am weld cerdyn adnabod a gwiriwch ef yn ofalus. Ffoniwch y cwmni maen nhw’n ei gynrychioli – cymerwch y rhif ffôn o’ch llyfr ffôn yn hytrach na galw rhif maen nhw’n ei roi i chi.
  • os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn cwblhau arolwg, gofynnwch iddyn nhw adael. Does dim rhaid i chi wneud unrhyw arolygon os nad ydych chi’n dymuno. 

Cofiwch, pan fydd rhywun yn curo ar eich drws:

  • edrychwch dryw’r twll sbïo neu’r ffenestr.
  • ydych chi’n disgwyl rhywun?
  • ydych chi’n eu hadnabod?
  • gwiriwch pwy yw’r galwr cyn agor y drws
  • peidiwch â gadael i unrhyw alwr roi pwysau arnoch chi i wneud penderfyniad cyflym
  • peidiwch â theimlo eich bod yn anghwrtais neu’n anofalgar drwy ddweud ‘na’ – mae’ch diogelwch eich hun yn bwysicach
  • os ydych chi’n ansicr, peidiwch ag agor y drws

Gallech ofyn eich cyngor lleol os ydych mewn parth Dim Galwyr Diwahoddiad. Mae hyn yn atal rhai masnachwyr twyllodrus a thwyllwyr, a bydd yn gwneud i chi deimlo'n fwy hyderus yn dweud wrthynt am fynd i ffwrdd.   

Llythyron a galwadau ffôn sgamio

Wrth gwrs, nid yw pob sgamiwr yn dod i'ch tŷ i geisio eich twyllo allan o'ch arian - y dyddiau hyn, mae'n well gan y rhan fwyaf o sgamwyr e-byst, negeseuon testun neu alwadau ffôn. Dywedir wrthych eich bod wedi ennill rhywfaint o arian neu wobr a gofynnir i chi ddarparu eich manylion banc i dderbyn eich enillion. Mewn gwirionedd, maen nhw eisiau gwagio'ch cyfrif banc.

Mae sgam poblogaidd – a soffistigedig – arall yn ymwneud â thwyllwyr yn cysylltu â chi dros y ffôn, drwy e-bost neu neges destun yn smalio mai nhw yw eich banc. Byddwch yn cael gwybod am broblem, yn eironig fel arfer rhyw ‘weithgarwch amheus’ ar eich cyfrif, a gofynnir i chi ddarparu rhifau cyfrif neu gyfrineiriau. Cofiwch, fydd banciau byth yn gofyn i chi roi’r manylion hyn iddyn nhw. Felly os dywed rhywun eu bod yn cynrychioli’ch banc ac yn gofyn am y rhain, mae bron yn sicr o fod yn sgam. Y peth i’w wneud yw rhoi’r ffôn i lawr.

Efallai y bydd rhywun hyd yn oed yn cynnig cyfle i chi fuddsoddi’ch arian a fydd yn talu llawer o log i chi neu’n gwneud elw mawr i chi. Peidiwch byth â buddsoddi’ch arian heb gael cyngor ariannol – os yw rhywbeth yn swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae bron bob amser!

Beth i’w wneud:

  • peidiwch byth ag ymateb i lythyron neu alwadau ffôn sy’n dweud wrthych chi eich bod wedi ennill gwobr neu gystadleuaeth oni bai eich bod yn gallu cofio gwneud cais amdani. Gofynnwch i ffrind neu aelod o’ch teulu am gyngor
  • cofiwch na fydd eich banc neu gymdeithas adeiladu byth yn eich ffonio i ofyn am fanylion eich cyfrif
  • peidiwch byth ag ymateb i lythyr neu alwad ffôn sy’n cynnig cyfle i chi fuddsoddi mewn rhywbeth heb gymryd cyngor ariannol annibynnol

Beth i’w wneud os credwch eich bod yn fictim twyll

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef sgam a/neu drosedd wrth y drws, cysylltwch â Safonau Masnach (Saesneg yn unig) eich cyngor lleol ar unwaith. Fel arall, rhowch wybod am y digwyddiad i linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth neu’r mater i Action Fraud.

Os ydych chi neu rywun rydych chi’n eu hadnabod mewn perygl dybryd, dylech chi ffonio 999.

Os credwch fod trosedd wedi ei chyflawni o bosib, ffoniwch yr heddlu a byddwch yn ofalus i beidio â symud neu ddifa unrhyw dystiolaeth.

Diweddariad diwethaf: 05/05/2023