skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae perthnasoedd camdriniol yn digwydd yn aml lle bydd cydbwysedd pŵer anghyfartal rhwng dau unigolyn, mae’r naill yn ddibynnol ar y llall yn gorfforol, yn ariannol neu’n emosiynol (ac yn aml pob un o’r tri).

Efallai nad yw’r sawl sy’n dioddef camdriniaeth yn sylwi ar yr arwyddion rhybuddio ar unwaith neu’n fodlon cydnabod bod camdriniaeth yn digwydd.

Am fod ymddygiad camdriniol yn digwydd pan fydd unigolyn yn mynd ati i arfer pŵer a rheolaeth dros rywun arall, mae’n gallu codi mewn sefyllfaoedd ac amgylcheddau gwahanol.

Camdriniaeth ddomestig

Mae camdriniaeth ddomestig yn digwydd rhwng parau sydd nawr neu sydd wedi bod yn glos at ei gilydd, gan gynnwys perthnasoedd heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Yn aml bydd camdriniaeth ddomestig yn cynnwys trais corfforol neu fygythiad trais; hefyd gall gynnwys camdriniaeth rywiol, emosiynol neu ariannol.

Gall camdriniaeth ddomestig gynnwys gweithredoedd troseddol, e.e. ymosodiad, ymgais i ladd, treisio.

Camd-drim pobl oedrannus

Gall pobl hŷn fod mewn perygl arbennig o gamdriniaeth gorfforol, emosiynol ac ariannol, yn ogystal ag esgeulustod. Yn drist, mae’r fictimau yn adnabod y mwyafrif o’r rhai sy’n cyflawni hynny, e.e. maen nhw’n aelodau’r teulu, gofalwyr sy’n cael eu talu neu o bryd i’w gilydd hyd yn oed gweithwyr proffesiynol.

Mae rhai mathau o gamdriniaeth pobl oedrannus yn droseddau, e.e. twyll, lladrad, ymosodiad.

Oedolion sydd mewn risg o’u cam-drin

Mae rhai oedolion mewn mwy o risg o gael eu cam-drin o ganlyniad i anableddau dysgu neu gorfforol, oedran neu afiechyd.

Gall sefyllfa rhywun fel bod yn hawdd ei niweidio newid dros amser a bydd yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Gall oedolion hawdd eu niweidio fod mewn risg o bob math o gamdriniaeth, gan gynnwys camdriniaeth rywiol, esgeulustod a throseddau cyfeillio. Gall y cyflawnwyr fod yn ‘ffrindiau’, yn aelodau’r teulu neu’n ofalwyr sy’n cael eu talu.

Cam-drin plant

Yn drist, mae llawer o blant yn tyfu i fyny gyda chamdriniaeth gorfforol, rywiol ac emosiynol gan yr union bobl a ddylai fod yn eu hamddiffyn – eu rhieni a’u teulu. Mae esgeulustod, hefyd, yn dod yn fwyfwy cyffredin.

Mae camdriniaeth plant yn gyffredin yn y byd sydd ohoni, felly mae’n bwysig adrodd unrhyw gamdriniaeth plant rydych chi’n ei hamau i’r heddlu neu eich Tîm Diogelu lleol ar unwaith. Nid oes rhaid i chi adael eich enw.

Enwaedu benywod

Tynnu organau rhywiol allanol benywod yn rhannol neu’n gyfan gwbl yw enwaedu benywod, sy’n digwydd am resymau diwylliannol yn hytrach na meddygol. Mae’n arfer creulon, peryglus a phoenus, sy’n cael ei ystyried yn gamdriniaeth plant yn y Deyrnas Unedig.

Mae enwaedu benywod yn anghyfreithlon, beth bynnag y cefndir diwylliannol.

Bwlio a seiberfwlio

Mae bwlio’n cael ei gysylltu â phlant yn aml; ond mae bwlio’n gallu digwydd ar unrhyw oedran ac mae llawer o bobl yn cael eu bwlio yn y gweithle.

Mae bwlio’n gallu cynnwys brawychu wyneb i wyneb, triniaeth annheg, lledu sïon maleisus a phigo ar rywun yn gyson. Mae ar-lein neu seiberfwlio yn hynod gyffredin.

Nid yw bwlio ei hun yn drosedd ond mae aflonyddu yn anghyfreithlon yn dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Trosedd casineb

Mae’r term trosedd casineb yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw drosedd sydd ym marn y fictim, neu rywun arall, wedi ei hysgogi gan ragfarn neu gasineb. Mae trosedd casineb yn cynnwys troseddau casineb anabledd a throseddau cyfeillio.

Mae digwyddiadau casineb yn aml yn bethau lefel isel heb fod yn drosedd (er eu bod yn dal yn ingol iawn i’r fictimau); serch hynny, troseddau yw rhai digwyddiadau casineb, e.e. ymosodiad rhywiol.

Stelcio

Mae stelcio’n cynyddu – ac mae’n anghyfreithlon.

Nid yw stelcio o reidrwydd yn golygu rhywun yn eich dilyn chi. Gall stelciwr fod yn rhywun sy’n eich aflonyddu’n gyson, boed hynny'n bersonol, dros y ffôn neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae seiberstelcio yn golygu bod rhywun yn defnyddio’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol i fynd ar ôl rhywun a’u haflonyddu.

Priodi dan orfod

Priodas dan orfod yw un lle nad yw un neu’r ddau unigolyn sy’n priodi yn cydsynio i’r briodas ac mae pwysau neu gamdriniaeth yn cael eu defnyddio i alluogi’r briodas i fynd yn ei blaen.

Mae priodas dan orfod yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Mater i bawb yw diogelu

Nid yw camdriniaeth byth yn dderbyniol. Os credwch eich bod chi’n cael eich cam-drin neu os ydych yn amau bod rhywun arall yn cael eu cam-drin, peidiwch â chadw’r peth i’ch hunan.

Ceisiwch help oddi wrth asiantaeth gymorth arbenigol, ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

Diweddariad diwethaf: 02/05/2023