Mae newidiadau mewn cymdeithas yn golygu bod aelodau o deuluoedd erbyn hyn yn aml yn byw milltiroedd i ffwrdd, mewn trefi a dinasoedd gwahanol, hyd yn oed mewn gwledydd gwahanol weithiau. Mae gofalu am rywun – neu rannu gofal rhywun – sy’n byw ymhell i ffwrdd yn dod â’i heriau, pryderon a rhwystredigaeth ei hun.
Os ydych chi’n rhan o ofal rhywun o bell, ni fyddwch yn gallu rhoi’r gorau i bopeth a theithio milltiroedd bob tro mae mân argyfwng.
Trefnu cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol
Cysylltwch â’ch cyngor lleol a threfnwch asesiad o anghenion eich perthynas/ffrind. Os gallwch chi fod yna pan fydd yr asesiad yn digwydd, soniwch am y ffaith eich bod yn gofalu o bell ac yn methu darparu gofal rheolaidd i’r person. Caiff hyn ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu cynllun cymorth y person.
Y math priodol o dai
Mae byw yn y lle priodol yn hanfodol bwysig. Efallai y bydd rhywun sy’n cael anawsterau wrth fyw ar ei ben ei hun mewn tŷ dau lawr sydd ag ystafell ymolchi i fyny’r grisiau yn ymdopi’n braf mewn llety â chymorth. Os na, efallai ei bod hi’n bryd ystyried gofal preswyl, yn agosach at eich cartref chi o bosib (ond dim ond os yw'r person sy'n derbyn gofal yn hapus gyda'r symud arfaethedig).
Os yw’r person eisiau parhau i fyw gartref, mae’n werth ystyried rhai addasiadau i’r tŷ.
Technoleg
Mae llawer o ffyrdd y gall technoleg helpu gyda heriau gofalu o bell.
Bydd tele-ofal a larymau cymunedol yn rhoi tawelwch meddwl i chi pan na allwch chi fod yno, a bydd cymhorthion byw bob dydd yn helpu’r person arall i fyw yn annibynnol.
Mae gan Carers UK (Saesneg yn unig) lawer o gyngor am offer a thechnoleg.
Os ydych chi’n rhan o grŵp ehangach o deulu neu ffrindiau sy’n helpu i ofalu am rywun, yna gall cyfryngau cymdeithasol eich helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a rhannu negeseuon.
Mae app Jointly (Saesneg yn unig) yn cynnig ffordd syml, ymarferol i deuluoedd rannu gwybodaeth a chyd-drefnu’r rôl ofalu ymhlith y sawl sy’n helpu i edrych ar ôl anwylyn.
Rhannu rôl ofalu
Holwch a ydy unrhyw un arall yn fodlon rhannu rôl ofalu, hyd yn oed os yw hynny dim ond yn gymydog sy’n galw i mewn unwaith neu ddwy yr wythnos i helpu gyda thasgau cartref. Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol nhw a faint o oriau maen nhw’n gofalu, mae hyd yn oed yn bosibl y byddan nhw’n gymwys i dderbyn Lwfans Gofalwr.
Argyfyngau
Pan fyddwch chi’n gofalu o bell, mae’n hanfodol ystyried beth allai ddigwydd yn achos argyfwng. Mae teithio yn gallu bod yn flinderus iawn ac os ydych chi’n sâl, mae’n bosibl na fyddwch chi’n gallu ymdopi â’r daith.