Pan fydd rhywun yn marw, mae’n rhaid i’w farwolaeth gael ei choferstru o fewn pum niwrnod (oni bai bod y farwolaeth wedi cael ei chyfeirio at grwner).
Gallwch chi gofrestru marwolaeth mewn unrhyw swyddfa gofrestru (Saesneg yn unig) – fel arfer mae’n cymryd tua hanner awr.
Os defnyddiwch chi’r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle bu farw’r unigolyn, byddwch chi’n derbyn y dogfennau mae arnoch chi eu hangen ar y diwrnod.
Os defnyddiwch chi swyddfa gofrestru wahanol, bydd rhaid i chi aros ychydig o ddyddiau i’r dogfennau gael eu hanfon atoch chi.
Pwy sy’n cael cofrestru marwolaeth?
Mae’r mwyafrif o farwolaethau’n cael eu cofrestru gan berthynas i’r sawl sydd wedi marw. Os nad oes unrhyw aelod o’r teulu ar gael – neu nid oes gan yr ymadawedig unrhyw berthnasau – yna gall y farwolaeth gael ei chofrestru gan rywun arall.
Efallai mai’r person sy’n trefnu’r angladd fydd hwn, ysgutor ystâd y person, rhywun a oedd yn bresennol adeg y farwolaeth, neu hyd yn oed gweinyddwr ysbyty.
Pa wybodaeth mae ei hangen arnoch chi?
Er mwyn cofrestru marwolaeth mae’n rhaid bod gennych chi dystysgrif feddygol sy’n datgan achos y farwolaeth, sydd wedi ei llofnodi gan feddyg.
Hefyd bydd rhaid i chi ddweud wrth y cofrestrydd:
- enw llawn yr unigolyn ar adeg eu marwolaeth
- unrhyw enwau blaenorol, er enghraifft, enw cyn priodi
- dyddiad a man eu geni
- eu cyfeiriad diweddaraf
- eu galwediageth
- enw llawn, dyddiad geni a galwedigaeth priod neu bartner sifil sy’n goroesi neu ddiweddar
- a oeddent yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau eraill.
Os yw’n bosibl, ewch ag unrhyw ddogfennau a allai fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, tystysgrif eni’r unigolyn, pasbort, prawf o’u cyfeiriad a cherdyn meddygol y GIG.
Tell Us Once
Cynllun gwirfoddol yw Tell Us Once (Saesneg yn unig) i’w gwneud yn haws i bobl hysbysu’r llu o adrannau llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol am farwolaeth rhywun.
Bydd eich cofrestrydd lleol yn dweud wrthych chi a ydy’r cynllun ar gael yn eich ardal chi.
Beth mae’n costio?
Nid oes unrhyw gost i gofrestru marwolaeth; ond bydd tâl yn cael ei godi arnoch chi am gopïau ychwaneol o’r dystysgrif farwolaeth.
Os bydd rhywun yn marw tramor
Mae angen i chi gofrestru’r farwolaeth yn unol â’r rheoliadau yn y wlad lle bu farw’r person. Bydd tystysgrif farwolaeth leol yn cael ei rhoi i chi. Caiff hon ei derbyn yn y DU; fodd bynnag, os nad yw yn y Saesneg, efallai y bydd angen i chi gael cyfieithiad ardystiedig.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Beth i'w wneud os bydd rhywun yn marw dramor. (Saesneg yn unig).