Mae maethiad da yn hanfodol i’ch iechyd; ond weithiau mae paratoi pryd bwyd maethlon o’r cychwyn yn gallu teimlo fel llawer iawn o ymdrech – yn arbennig pan fyddwch chi’n coginio i’ch hun yn unig.
Efallai bod rhesymau eraill pam rydych chi wedi rhoi’r gorau i fwyta’n dda.
Efallai ei bod yn anodd i chi sefyll am gyfnodau hir heb deimlo’n benysgafn, neu efallai eich bod chi’n poeni y byddwch chi’n anghofio diffodd y cylch nwy. Weithiau bydd pobl hŷn jest yn colli diddordeb mewn bwyd neu’n anghofio bwyta.
Os ydych chi’n colli prydau bwyd yn aml neu’n bwyta dim byd ond byrbrydau wedi eu prosesu, mae risg gwirioneddol y byddwch chi’n dioddef camfaethiad a disychiad yn y tymor hir.
Os na allwch chi baratoi a choginio prydau bwyd eich hunan - neu os oes angen help arnoch chi i fwyta’ch prydau - efallai y byddwch chi’n gallu derbyn help oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol. Dwedwch wrth eich gweithiwr cymdeithasol os credwch fod angen y math yma o gymorth arnoch chi.
Os nad ydych chi’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, y cam cyntaf yw cael asesiad o’ch anghenion i ddarganfod pa gymorth mae ei angen.
Clybiau cinio
Mae clybiau cinio yn dod â phobl ynghyd dros bryd bwyd poeth, maethlon. Fel arfer does dim angen atgyfeiriad gan y gwasanaethau cymdeithasol arnoch chi.
Pryd ar glud
Fel arfer mae pryd ar glud – sydd weithiau’n cael eu galw’n ‘brydau cymunedol’ – ond yn cael eu darparu os na allwch chi gynhesu pryd bwyd eich hun ac nad oes gennych chi neb arall i wneud hynny drosoch chi, e.e. rydych yn byw ar eich pen eich hun.
Caiff pryd bwyd poeth a phwdin amser cinio eu darparu i’ch cartref gan yrwyr rheolaidd a fydd yn gwirio eich bod yn ddiogel ac y iach bob tro maent yn ymweld (hyd at bum niwrnod yr wythnos). Os oes gan y gyrwyr unrhyw bryderon amdanoch chi, e.e. nid ydych yn ateb y drws pan fyddant yn curo, byddant yn cysylltu â rhywun a fydd yn gwirio ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n iawn, e.e. aelod o’ch teulu neu gymydog.
Fel hyn, mae pryd ar glud hefyd yn helpu i atal arwahanrwydd ac unigedd.
Mae prisiau prydau bwyd yn amrywio yn dibynnu ar leoliad ac a ydych am gynnwys pwdin ond yn amrywio rhwng £4–6 y dydd, ni waeth beth yw eich amgylchiadau ariannol.
Prydau wedi rhewi
Os gallwch chi gynhesu pryd bwyd wedi ei rewi, neu os oes gennych chi rywun i wneud hynny drosoch chi, mae’n annhebygol y byddwch chi’n gymwys i dderbyn pryd ar glud.
O dan yr amgylchiadau hyn, efallai yr hoffech chi ystyried prynu prydau bwyd wedi rhewi o archfarchnadoedd, neu gyflenwr arbenigol bwyd wedi rhewi fel Wiltshire Farm Foods (Saesneg yn unig) neu Oakhouse Foods (Saesneg yn unig) sy'n dod â nwyddau i’ch cartref.
I gael rhestr lawn o’r gwasanaethau dosbarthu prydau bwyd yng Nghymru cliciwch yma (Saesneg yn unig).