skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Boed y bwydydd wythnosol, meddyginiaeth barod, eitemau i’r tŷ neu ddillad, mae bob amser rhywbeth mae arnon ni ei angen i’r siopau.

Felly beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n methu mynd i siopa, efallai am eich bod chi’n fregus neu’n teimlo’n ddiamddiffyn mewn archfarchnad neu ganolfan siopa brysur? Efallai bod eich siop leol wedi cau ac mae’n anodd i chi gyrraedd un arall?

Uwchfarchnadoedd

Yn dibynnu ble rydych chi’n byw, mae rhai cadwyni archfarchnad yn darparu gwasanaethau bws am ddim i’w siopau ac yn ôl. Gallech chi ofyn i ffrind neu berthynas a oes modd i chi fynd i’r archfarchnad gyda nhw, neu a fydden nhw’n fodlon wneud tipyn o siopa i chi.

Danfoniadau cartref

Mae bob amser yn werth gwirio a ydy busnesau lleol yn fodlon cyflenwi (am dâl bach), yn arbennig os ydych chi’n gwsmer rheolaidd.

Efallai eu bod nhw’n mynd yn brin ond mae dynion llaeth yn dal i fodoli a fydd yn dod â llaeth a chynhyrchion ffres eraill i’ch drws. I ddod o hyd i’r un agosaf i chi, ewch i www.findmeamilkman.net (Saesneg yn unig).

Bydd cwmnïau fel Riverford yn darparu blychau llysiau, salad a ffrwythau yn ogystal â chynnyrch llaeth i'ch cartref bob wythnos. Neu gofynnwch i'ch greengrocer lleol (a/neu gigydd) os byddant yn danfon atoch.

Siopa ar-lein

Mae llawer o bobl brysur yn gwneud y rhan fwyaf o’u siopa ar-lein y dyddiau hyn. Mae modd prynu bron popeth rydych chi ei angen ar-lein: o ddillad a llyfrau, tocynnau theatr a gwyliau, i anrhegion Nadolig a’r bwyd wythnosol.

Erbyn hyn mae’r mwyafrif o gadwyni archfarchnad mawr yn cynnig siopa is ar-lein. Fel arfer mae isafswm y mae’n rhaid i chi ei wario ac mae costau cyflenwi yn dibynnu ar yr amser/dydd. Os nad ydych chi ar-lein beth am ofyn i ffrind neu aelod o’r teulu eich helpu. Gallech chi hyd yn oed rannu’r costau cyflenwi.

Os nad cyrraedd y siop ond cario’r nwyddau adref yw’ch problem chi, holwch a fydd y siop yn danfon eich nwyddau. Mae rhai archfarchnadoedd yn cynnig danfoniadau am ddim os gwariwch chi fwy na swm penodedig, e.g. Iceland

Diweddariad diwethaf: 06/04/2023