skip to main content

Y man cychwyn yw’ch asesiad; bydd rhywun yn edrych ar eich amgylchiadau ac yn darganfod pa anghenion gofal a chymorth sydd gennych chi o bosib a sut mae eu bodloni.

Mae’r broses asesu yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i chi, gan gynnwys beth rydych yn gallu ei wneud yn ogystal â’r pethau mae arnoch chi angen help gyda nhw.

Gofyn am asesiad

Efallai bod asesiad wedi cael ei gynnig i chi’n barod – pan oeddech chi yn yr ysbyty o bosib. Os na, cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol.

Gallwch chi wneud hyn eich hun neu ofyn i rywun arall ei wneud drosoch chi. Mae’ch cysylltiad cyntaf â’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei alw’n ‘atgyfeiriad’ a’r ‘atgyfeiriad’ hwn sy’n cychwyn y broses.

Aros am asesiad

Mae’n bosib y bydd rhaid i chi aros ychydig o wythnosau i’ch asesiad ddigwydd felly os yw’ch sefyllfa chi’n frys, soniwch am hyn pan gysylltwch â’r gwasanaethau cymdeithasol.

Os bydd pethau’n gwaethygu neu’n mynd yn daer tra byddwch chi’n aros, gadewch i’r gwasanaethau cymdeithasol wybod er mwyn iddyn nhw gael trefnu i chi gael eich cefnogi cyn eich asesiad ffurfiol.

Gwahanol fathau o asesiadau

Mae gan gynghorau ymagweddau gwahanol at gynnal asesiadau ac ni fydd pob un yn anfon rhywun i’ch cartref yn y lle cyntaf.

Efallai mai un person – gweithiwr cymdeithasol, nyrs neu therapydd galwedigaethol – yn cynnal sawl math o asesiadau ar yr un pryd, efallai un am addasiadau i’ch cartref ac un arall ar gyfer anghenion gofal personol. Y rheswm am hyn yw osgoi dyblygu gwaith a chithau’n gorfod ailadrodd eich hun.

Darganfod beth sy’n bwysig i chi

Yn eich asesiad, gofynnir i chi beth rydych chi’n ystyried yn bwysig i chi am eich lles eich hun.

Efallai nad yw rhai o’r pethau rydych chi’n methu â’u gwneud nawr yn bwysig iawn i chi, er enghraifft, nid ydych chi’n teimlo’n ddiogel yn y gegin, ond mae’ch gŵr neu’ch gwraig yn fodlon cymryd drosodd y gwaith coginio.

Efallai bod pethau eraill yn bwysig iawn i chi, er enghraifft, gallu symud o gwmpas eich cartref yn ddiogel neu barhau i weithio.

Bydd y sawl sy’n asesu’ch anghenion gofal a chymorth hefyd yn ystyried eich diogelwch a’ch gallu i fyw yn annibynnol.

Bodloni’ch anghenion gofal a chymorth

Ar ôl i’ch asesiad gael ei gynnal, rhaid i’r gweithiwr cymdeithasol neu’r therapydd galwedigaethol fod yn glir am beth sy’n bwysig i chi, a beth allwch chi ei wneud drosodd eich hun i uchafu’ch lles a’ch annibyniaeth eich hun.

Rhaid iddynt ddarganfod a oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag gwneud rhywbeth sy’n bwysig i chi (rhwystr) a beth allai ddigwydd os na chewch chi gefnogaeth (risg).

Yna mae’n rhaid i’r cyngor benderfynu a oes gennych chi anghenion na allwch chi eu bodloni eich hunan neu gyda chymorth eich teulu neu ffrindiau neu drwy ddefnyddio gwasanaethau cymunedol, er enghraifft, clwb cinio.

Byddan nhw efallai’n cynnig cyngor a gwybodaeth i chi i ohirio’ch angen am ofal a chymorth, er enghraifft, argymell eich bod yn mynychu cwrs i reoli’ch cyflwr tymor hir.

Ar y llaw arall, efallai y bydd y cyngor yn penderfynu mai dim ond drwy wasanaethau maen nhw’n eu darparu neu eu trefnu y gall eich anghenion chi gael eu bodloni. Caiff popeth ei ysgrifennu yn eich cynllun gofal a chymorth a bydd copi yn cael ei roi i chi.

Talu am wasanaethau

Ni chodir unrhyw dâl am gael asesiad o’ch anghenion. Ond os penderfynir bod gennych chi anghenion gofal a chymorth ac rydych chi eisiau i’r gwasanaethau cymdeithasol fodloni’r anghenion hynny, gofynnir i chi fynd drwy asesiad ariannol er mwyn i’r cyngor benderfynu faint, os rhywbeth, dylech chi ei gyfrannu at gost eich gofal. Mae gennych chi’r hawl i wrthod hyn.

Ni fydd gofyn i neb yng Nghymru dalu mwy na £90 yr wythnos (Ebrill 2019) tuag at eu gwasanaethau gofal personol, ni waeth faint o oriau o gefnogaeth maen nhw’n eu derbyn.

Diweddariad diwethaf: 15/04/2019