skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae taliadau uniongyrchol yn gallu ymddangos yn dipyn o her ar y dechrau, ond byddwch chi’n derbyn llawer o help i sefydlu popeth, cyflogi cynorthwy-ydd personol os penderfynwch wneud hynny, a chadw’r cofnodion angenrheidiol.

Am beth gall taliadau uniongyrchol gael eu defnyddio?

Cewch chi wario’ch taliadau uniongyrchol ar yr hyn rydych chi’n penderfynu fydd yn diwallu’ch canlyniadau personol chi orau fel y’i nodwyd yn eich cynllun gofal a chymorth.

Gwasanaethau gofal personol

Cewch chi ddefnyddio’ch arian i dalu am ofalwyr i ddod i’ch cartref a’ch helpu gyda gweithgareddau bob dydd fel ymolchi, gwisgo a gwneud prydau bwyd. Chi sy’n penderfynu sut, pryd a ble rydych chi am i rywun eich cefnogi.

Bydd eich tîm cymorth taliadau uniongyrchol yn rhoi rhestr i chi o’r asiantaethau gofal cartref sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu gallwch chwilio ar eu gwefan. Dangoswch eich cynllun gofal a chymorth i’r asiantaeth a thrafodwch sut maen nhw’n bwriadu diwallu’ch anghenion chi cyn i chi fynd ymlaen.

Cynorthwy-ydd personol

Os yw’n well gennych chi, cewch chi ddefnyddio’ch taliadau uniongyrchol i gyflogi un neu fwy o gynorthwywyr personol. Yr opsiwn hwn sy’n rhoi’r rheolaeth fwyaf i chi dros y cymorth rydych chi’n ei dderbyn; ond mae’n golygu hefyd y dewch chi’n gyflogwr y person gyda’r holl gyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth hynny.

Gweithgareddau cymdeithasol

Cewch chi wario’ch arian ar weithgareddau cymdeithasol, dosbarthiadau nos a hyn yn oed gwyliau os ydyn nhw yn eich cynllun gofal. Hefyd gall taliadau uniongyrchol helpu os ydych chi am wneud gwaith am dâl neu gwrs hyfforddiant.

Offer a mân addasiadau i’r cartref

Os oes arnoch chi angen offer arbennig neu fân addasiadau i’r cartref, gallai swm i dalu am y pethau hyn gael ei gynnwys yn eich taliadau uniongyrchol.

Gallai offer arbennig gynnwys cyfrifiaduron, cymhorthion symud, dyfeisiau diogelwch, cymhorthion trosglwyddo a thechnoleg gynorthwyol.

Amser i ffwrdd o ofalu

Os ydych chi’n ofalwr, efallai y cewch chi daliadau uniongyrchol i dalu am ofal seibiant neu i gyflogi rhywun i’ch helpu yn eich rôl ofalu, efallai er mwyn i chi gael mynd yn ôl i’r gwaith, addysg neu dim ond i fwynhau tipyn o amser i’ch hun.

Anghenion tymor byr

Mae taliadau uniongyrchol yn gallu cefnogi’ch dychweliad i annibyniaeth, e.e. am ofal canolradd neu yn dilyn eich rhyddhau o ysbyty.

Gall taliadau uniongyrchol gael eu defnyddio hefyd am arhosiad dros dro mewn gofal preswyl (gwiriwch gyda’ch tîm taliadau uniongyrchol yn gyntaf).

Gofal preswyl hirdymor

Gallwch nawr ddefnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal preswyl hirdymor os oes gennych angen penodol am ofal a chymorth. 

Oes unrhyw beth na allwch chi ddefnyddio taliadau uniongyrchol amdano?

Mae’n bwysig cofio bod rhaid defnyddio taliadau uniongyrchol i ddiwallu’r canlyniadau a nodir yn eich cynllun gofal a chymorth.

Ni all taliadau uniongyrchol gael eu defnyddio i brynu offer y mae’n rhaid i’r GIG eu darparu nac addasiadau cartref y mae Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn gallu talu amdanyn nhw.

Mwy o wybodaeth

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ganllaw ar-lein i gyfeirio taliadau ar ei wefan.

Mae Age Cymru hefyd wedi cynhyrchu taflenni cynhwysfawr (Saesneg yn unig) am daliadau uniongyrchol (Chwefror 2021).

Diweddariad diwethaf: 24/04/2023