skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ni ddylai neb gael eu gorfodi i adael swydd oherwydd eu hiechyd, oedran, anabledd neu gyfrifoldebau gofalu.

Mewn gwirionedd, mae’n anghyfreithlon i’ch cyflogwr eich trin yn llai ffafriol neu ddileu’ch swydd ar y seiliau hynny yn unig.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig) yn ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn neb yn y gweithle (a mannau eraill) oherwydd rhai ‘nodweddion gwarchodedig’ penodol sy’n cynnwys anabledd, oedran a beichiogrwydd.  Mae’n eich amddiffyn chi hefyd os ydych chi’n gofalu am rywun sy’n oedrannus neu’n anabl.

Mae’r gyfraith yn gosod dyletswydd ar gyflogwyr i wneud ‘addasiadau rhesymol’ i alluogi pobl anabl i aros yn y gwaith, neu i ddychwelyd iddo. Mae hyn yn golygu na ddylai dim am eich amodau gweithio neu’ch gweithle eich anfanteisio chi o’ch cymharu â gweithwyr eraill nad ydyn nhw’n anabl.

Cymorth ymarferol yn y gwaith

Mae’r cynllun Mynediad i Waith (Saesneg yn unig) yn darparu cymorth ymarferol i bobl anabl sy’n dymuno parhau i weithio neu ddechrau gweithio mewn cyflogaeth am dâl, gan gynnwys hunan-gyflogaeth. Mae’n rhaid bod gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd sy’n debygol o bara o leiaf flwyddyn. Os ydych chi’n gymwys, gall y gronfa helpu drwy ddarparu cymorth ychwanegol na fyddai eu hangen ar rywun nad yw’n anabl sy’n gwneud yr un swydd, er enghraifft offer arbenigol, a gweithiwr cynorthwyol neu dacsi i’r gwaith (os na allwch chi ddefnyddio cludiant cyhoeddus).

Os byddwch chi’n newid swyddi, gallwch chi wneud cais am arian i symud unrhyw offer arbennig.

Gweithio hyblyg

Erbyn hyn mae gan bob gweithiwr yr hawl i ofyn am oriau gweithio hyblyg (Saesneg yn unig) os ydych chi wedi gweithio i’ch cyflogwr am fwy na 26 wythnos (rhaid i’ch cyflogwr ystyried y cais ond nid oes rhaid iddo gytuno iddo).

Mae ACAS (Saesneg yn unig) yn rhoi cyngor ar sut i ofyn i'ch cyflogwr am oriau gwaith hyblyg.

Gofalwyr a rhieni

P’un a ydych chi’n gofalu am blant, rhieni oedrannus neu ddibynyddion eraill, mae gennych chi rai hawliau cyflogaeth, gan gynnwys yr hawl i ofyn am oriau gweithio hyblyg ac i gymryd amser i ffwrdd o dan rai amgylchiadau.

Mae Deddf Cydraddoldeb Act 2010 (Saesneg yn unig) yn ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn gofalwyr sy’n edrych ar ôl pobl anabl neu oedrannus.

Aros yn y gwaith wrth i chi fynd yn hŷn

Nid oes unrhyw ofyniad i ymddeol yn 65 oed rhagor, ac efallai y penderfynwch weithio y tu hwnt i oedran pensiwn y wladwriaeth (sydd ei hun yn amrywio yn ôl eich rhywedd a’ch dyddiad geni), gan leihau’ch oriau efallai, neu ymarfer eich hawl i ofyn am gael gweithio’n hyblyg.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig) yn amddiffyn gweithwyr hŷn yn erbyn gwahaniaethu neu driniaeth annheg ar sail eu hoedran.

Mae gan ACAS (Saesneg yn unig) ganllaw i'ch helpu i nodi gwahaniaethu ar sail oedran fel gweithiwr neu geisiwr swyddi a beth i'w wneud amdano.

Os credwch eich bod yn dioddef gwahaniaethu

Os credwch fod eich cyflogwr yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oedran, eich iechyd neu’ch anabledd, neu am fod gennych chi gyfrifoldebau gofalu, cysylltwch ag ACAS (Saesneg yn unig) am gyngor.

Diweddariad diwethaf: 05/04/2023