Mae mwy a mwy o bobl nawr yn dewis gweithio drostynt eu hunain – gan naill ai sefydlu busnes neu weithio ar eu liwt eu hunain neu ar sail ymgynghorol.
Does dim dwywaith bod llawer o fanteision i weithio dros eich hunan, nid lleiaf yr ymdeimlad o allu rheoli’ch ffawd eich hunan.
Po galetaf y gweithiwch chi, mwyaf i gyd o arian byddwch chi’n ei ennill. Bydd gennych yr hyblygrwydd i weithio o amgylch ymrwymiadau eraill, ac yn well byth, ni all neb ddweud wrthych chi beth i’w wneud neu gymryd eich swydd oddi wrthych chi.
Neu dyna’r theori. Yn sylfaenol, mae gweithio i’ch hunan yn aml yn golygu oriau hir a nosweithiau di-gwsg.
Ac os byddwch chi’n cyflogi gweithwyr, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth gyflogaeth a chydraddoldeb.
Ewch i gov.uk (Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth am ddod yn hunangyflogedig neu sefydlu busnes.
Help wrth gychwyn
Gall Busnes Cymru eich helpu i sefydlu, rhedeg a thyfu eich busnes o’r newydd. Bydd eu cynghorwyr yn cynnig cyngor ar faterion ariannol a chyfreithiol, gan gynnwys cyflogi gweithwyr. Mae cyngor ar gael ar-lein a thros y ffôn. Ffôn: 03000 6 03000.
Mae Syniadau Mawr Cymru yn helpu’r rhai dan 25 oed sy’n byw yng Nghymru (neu’n dychwelyd yma) i ddechrau eu busnes eu hunain. Efallai y bydd grantiau o hyd at £2,000 ar gael. Os ydych chi dros 25 oed, ac wedi bod yn economaidd anweithgar neu'n ddi-waith, efallai y gallwch gael grant o hyd at £2,000 i helpu gyda chostau hanfodol dechrau busnes yng Nghymru.
Os ydy’ch swydd wedi cael ei dileu, efallai y byddwch chi’n gymwys i ReAct Plws o hyd at £1,500 i ennill sgiliau newydd i’ch helpu i newid gyrfa neu redeg busnes.Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth gyda chostau gofal plant/gofal tra byddwch yn hyfforddi, ynghyd ag arian tuag at gostau ychwanegol fel teithio a llety.
Help i bobl ag anableddau
Mae gan eich Canolfan Byd Gwaith leol Gynghorydd Cyflogaeth Anabledd a fydd yn eich helpu i ystyried a ydy hunan-gyflogaeth yn opsiwn hyfyw i chi. Yn ogystal bydd yn gallu’ch helpu gyda grantiau a chymorth arall.
Mae’r cynllun Mynediad i Waith (Saesneg yn unig) sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth yn darparu cymorth ymarferol i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd meddwl sy’n dymuno parhau neu ddechrau gweithio mewn cyflogaeth am dâl, gan gynnwys hunan-gyflogaeth. Ni chewch ddefnyddio’r grant ar gyfer costau cychwyn busnes.
Mae Disabled Entrepreneurs (Saesneg yn unig) yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i entrepreneuriaid anabl.
Cyn-filwyr
Mae X-Forces (Saesneg yn unig) yn gallu helpu cyn-filwyr i roi cychwyn i’w syniadau busnes. Gall eu cynghorwyr helpu wrth gynllunio busnes, ariannu benthyciadau a thyfu’ch busnes yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Entrepreneuriaid hŷn
Mae Prime Cymru yn darparu cymorth a chyngor i entrepreneuriaid hŷn.
Entrepreneuriaid ifanc
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog (Saesneg yn unig) yn cynnal Rhaglen Fenter i helpu pobl ifanc (18-30 oed) i sefydlu eu busnes eu hun. Bydd eu tîm o gynghorwyr yn eich dysgu am ochr ymarferol dechrau busnes ac yn eich helpu i gynllunio a rhoi prawf ar eich syniad busnes. Hefyd mae’n bosib y bydd benthyciadau llog isel ar gael.
Cael y gwaith papur yn gywir
Fel gweithiwr cyflogedig, eich cyflogwr a ysgwyddodd y cyfrifoldeb dros eich taliadau treth ac Yswiriant Gwladol. Chi sy’n gorfod gwneud nawr. Cyn gynted ag y dechreuwch chi ennill arian i’ch busnes neu o weithio ar eich liwt eich hun, cewch eich dosbarthu’n hunan-gyflogedig o safbwynt Cyllid y Wlad felly mae’n rhaid i chi neilltuo digon o arian i dalu’ch rhwymedigaethau o ran treth ac Yswiriant Gwladol.
Yn dibynnu a ydych chi’n unig fasnachwr, yn bartneriaeth neu’n gwmni cyfyngedig, efallai y bydd trethi eraill i’w talu hefyd, gan gynwys TAW, yn ogystal â thaliadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn ar rhan unrhyw weithwyr rydych chi’n eu cymryd ymlaen.
Mae www.gov.uk (Saesneg yn unig) yn cynnig digonedd o arweiniad i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud pethau’n gywir o’r cychwyn; ond os ydych chi’n sefydlu busnes mae’n debyg ei bod yn syniad da defnyddio cyfrifydd yn gynnar.
Chwilio am waith
Bydd natur eich proffesiwn, masnach neu fusnes yn pennu ble a sut rydych chi’n chwilio am waith, a oes rhaid i chi hysbysebu mewn cyhoeddiadau neu fuddsoddi mewn gwefan ac e-fasnach.
Erbyn hyn mae llawer o gyfeiriaduron ar-lein am bob math o grefftau a phroffesiynau, gan gynnwys trydanwyr (Saesneg yn unig), gosodwyr nwy (Saesneg yn unig), a chwnselwyr (Saesneg yn unig). Mae amrywiol wefannau i bobl sy’n gweithio ar eu liwt eu hun hefyd ond mynnwch eu gwirio nhw’n drylwyr yn gyntaf.
Mae GwerthwchiGymru yn hysbysebu cyfleoedd caffael sector cyhoeddus i gyflenwyr. Gallwch gofrestru’n rhad ac am ddim.