Weithiau fe ddaw amser pan nad yw’n ddiogel nac yn synhwyrol bellach i chi barhau i fyw yn annibynnol, hyd yn oed gyda chefnogaeth oddi wrth wasanaethau gofal cymdeithasol a’ch teulu.
Efallai eich bod wedi mynd yn rhy fregus i edrych ar ôl eich hun - efallai eich bod yn methu symud o gwmpas eich cartref yn rhwydd neu efallai eich bod mewn perygl sylweddol o faglu a chwympo.
Neu rydych chi o bosibl yn berson anabl sy’n ei chael hi’n anos byw yn annibynnol gartref, efallai am fod eich rhieni’n heneiddio eu hunain.
Efallai eich bod wedi byw mewn llety gwarchod ond nawr yn ei chael hi’n gynyddol anodd ymdopi pan fyddwch chi ar eich pen eich hun.
Neu efallai eich bod yn mynd yn fwy anghofus ac yn anghofio diffodd y ffwrn a/neu dapiau, a allai eich rhoi chi mewn perygl.
Nid yw byth yn hawdd gadael rhywle rydych wedi byw am amser hir, ond mae’n fwy diogel i chi fyw rmewn man diogel lle bydd eich anghenion presennol yn cael eu diwallu.
Efallai y byddwch chi i gyd yn penderfynu mai’r opsiwn gorau yw i chi symud i mewn gyda’ch teulu ond os nad yw hyn yn ymarferol, yna efallai y dymunwch ystyried opsiynau eraill, gan gynnwys gofal preswyl parhaol. Mae gwahanol fathau o gartrefi gofal preswyl i fodloni gwahanol anghenion pobl.
Un o agweddau mwyaf positif symud i mewn i gartref preswyl neu gartref gofal nyrsio yw na fydd rhaid i chi boeni am dasgau cartref fel glanhau, garddio, coginio neu gynnal a chadw’r cartref mwyach. Bydd digonedd o gwmni gennych chi, gyda phreifatrwydd pan ddewiswch chi hynny. Hefyd mae’r mwyafrif o gartrefi gofal yn trefnu digwyddiadau rheolaidd ar gyfer eu preswylwyr.
Bydd a ydych chi’n gorfod talu am eich gofal personol a’ch llety neu beidio yn dibynnu a yw’ch anghenion yn rhai iechyd yn bennaf neu’n anghenion cymdeithasol a’ch sefyllfa ariannol eich hun.
Os ydych chi’n symud i mewn i gartref nyrsio preswyl am fod gennych chi anghenion iechyd parhaus, mae’n bosibl y cewch eich asesu gan ymarferwyr iechyd fel angen Gofal Iechyd Parhaus y GIG – sy’n golygu bod y GIG yn talu holl ffioedd eich cartref gofal.
Os anghenion gofal cymdeithasol sydd gennych yn bennaf, hynny yw mae angen help arnoch chi gyda phethau fel ymolchi a gwisgo, ac rydych chi am i’r cyngor lleol dalu neu gyfrannu at gostau’ch cartref gofal preswyl, bydd angen i chi gael asesiad o’ch anghenion ac asesiad ariannol.