skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r mwyafrif o ofalwyr yn rhy brysur yn delio â heriau bywyd bob dydd i gynllunio ymhell ymlaen llaw.

Ond mae’n bwysig ystyried beth allai ddigwydd i’r person rydych chi’n edrych ar eu hôl pe baech chi’n methu gofalu amdanyn nhw’n sydyn – efallai o ganlyniad i salwch sydyn neu ddamwain.

Gallai cynllunio sut fyddech chi’n delio ag argyfyngau o’r fath i atal mân anap neu ddigwyddiad rhag troi’n rhywbeth llawer mwy difrifol.

Pethau i’w hystyried

Nid oes neb eisiau meddwl yn ormodol am y sefyllfa waethaf bosibl, ond meddyliwch am beth allai ddigwydd yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • rydych chi’n mynd yn sâl yn sydyn ac efallai’n cael eich cymryd i ysbyty
  • mae aelod arall o’ch teulu yn cael argyfwng ac angen eich help chi
  • mae rhywun yn marw neu’n mynd yn sâl
  • rydych chi’n cael eich gohirio oddi cartref, efallai am fod cerbyd wedi torri i lawr neu dywydd gwael

A fyddai’r person rydych chi’n edrych ar eu hôl:

  • yn ddiogel gartref am unrhyw gyfnod? Os byddai, am faint o amser? Dros nos?
  • yn ymdopi ar eu pen eu hun am gyfnod byr, er enghraifft, a ydyn nhw’n gallu defnyddio’r ystafell ymolchi heb gymorth neu symud eu hun i mewn i’w gwely?
  • yn gallu cysylltu â rhywun arall?
  • medru cysylltu â’r gwasanaethau brys neu tynnwch larwm cymunedol?

Nid yw trefnu cynllun argyfwng yn golygu na fydd rhaid i chi byth ddelio ag argyfwng, ond bydd cynllunio ymlaen llaw yn rhoi tawelwch meddwl i chi.

Mae Carers UK wedi dyfeisio offeryn digidol syml (Saesneg yn unig) i’ch helpu i wneud cynllun wrth gefn'

Asesiad anghenion gofalwr

Mae’ch asesiad anghenion gofalwr yn canolbwyntio ar eich llesiant a’ch anghenion cymorth chi. Dylai ofyn i chi i ba raddau rydych yn abl ac yn fodlon gofalu am y person arall. Os oes gennych chi anhwylder iechyd hir-dymor dylai’ch cynllun cymorth chi adlewyrchu hyn, er enghraifft, drwy roi seibiannau byr i chi o’ch rôl ofalu.

Cynllun Cardiau Argyfwng Gofalwyr

Ar ôl cofrestru am y cynllun (Saesneg yn unig), byddwch chi’n derbyn cerdyn argyfwng neu ffob allwedd sy’n ffitio i mewn i’ch pwrs neu waled. Y syniad yw y byddwch chi’n cario’r cerdyn gyda chi ar bob adeg.

Os cewch chi ddamwain neu salwch sydyn, mae’r cerdyn yn cael ei ddefnyddio yn ffynhonnell i’ch adnabod ar unwaith a bydd yn rhybuddio’r staff argyfwng am y ffaith eu bod yn delio â rhywun sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Maen nhw’n cysylltu â rhif y ganolfan alw frys sydd ar y cerdyn a bydd cymorth arall yn cael ei drefnu ar gyfer y person rydych chi’n gofalu amdano/amdani.

Gwasanaeth cyfrinachol yw hwn ac ni chaiff unrhyw fanylion personol eu hysgrifennu ar y cerdyn argyfwng – y rhif cofrestru ar eich cerdyn yw’r unig ddull o’ch adnabod. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch canolfan neu dîm gofalwyr lleol.

Dwedwch wrth bobl eich bod chi’n ofalwr

Mae angen cryn dipyn o gymorth ar ofalwyr felly mae’n bwysig dweud wrth bobl os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun.

Dwedwch wrth eich cyflogwr a gwnewch yn siŵr bod eich meddyg teulu yn gwybod eich bod chi’n ofalwr.