Byddai’n well gan y mwyafrif o bobl fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hun cyhyd ag sy’n bosibl; ond weithiau mae angen tipyn o help ychwanegol arnyn nhw ni i wneud yn siŵr bod modd gwneud hynny’n ddiogel.
Mae’r angen am ofal a chefnogaeth yn gallu codi am bob math o resymau a gall fod yn barhaol neu dros dro. Os oes angen cefnogaeth arnoch chi gartref am eich bod chi’n mynd yn hŷn, yn fregus neu mae gennych chi anabledd tymor hir, mae’n debyg y bydd yn golygu rhywfaint o gymorth gyda’ch gofal personol. Gallai hynny fod yn help wrth ymolchi, paratoi prydau bwyd neu gymryd meddyginiaeth.
Efallai bod angen tipyn o help o gwmpas y tŷ arnoch chi? Efallai bod angen rhywun i wneud y gwait cynnal a chadw i'ch cartref, glanhau neu i siopa?
Os ydych chi’n cael anawsterau wrth fynd i mewn ac allan o’ch cartref, neu wrth symud o’i gwmpas, mae yna offer arbenigol i’ch helpu. Bydd dewis y cymhorthion byw bob dydd cywir a chael rhai addasiadau i’ch cartref fel canlalwiau neu ramp yn helpu i wneud tasgau bob dydd yn haws ac yn fwy diogel.
Efallai eich bod chi’n dechrau cael anawsterau gyda gwaith papur, e.e. talu biliau a delio â chyfrifon banc? Os felly, efallai yr hoffech chi drefnu i rywun arall edrych ar ôl eich gwaith papur chi.
Os ydych chi’n ymadfer ar ôl llawfeddygaeth neu salwch, mae’n debyg y byddai tipyn o gefnogaeth neu wasanaethau ailalluogi o gymorth i chi nes i’ch iechyd a’ch bywyd fynd yn ôl i normal.
Cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol
Cofiwch, mae gennych chi hawl i’ch anghenion gofal a chymorth gael eu hasesu gan eich cyngor lleol. Mae’r asesiad hwn yn rhad ac am ddim; ond mae’n bosib y bydd tâl yn cael ei godi am y gwasanaethau rydych chi’n eu derbyn yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol.
Cewch chi ofyn am asesiad hefyd os ydych chi’n darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu neu ffrind ac mae angen cymorth arnoch chi i gario ymlaen fel eu gofalwr.