skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r pum ffordd at les yn gynghorion am sut allwch chi wella’ch lles chi. Yn yr un modd ag y mae bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau yn eich gwneud chi’n iachach, bydd ymgorffori’r pum ffordd at les yn eich bywyd bob dydd yn gwella’ch llesiant chi.

Media

Yr un gyntaf yw Cysylltu â phobl o’ch amgylch. Gallai hyn fod â’ch teulu, ffrindiau, cymdogion neu bobl yn y gwaith. Gall y bobl hyn ddod yn gonglfeini’ch bywyd, felly buddsoddwch amser mewn creu cysylltiadau â nhw.

Media

Yr ail yw Bod yn Weithgar. Mae newid gweithgareddau anweithgar am rai gweithgar yn gwneud i chi deimlo’n dda ac yn gwella’ch iechyd. Dewch o hyd i rywbeth rydych chi’n ei fwynhau ac sy’n addas i’ch lefel symudedd a ffitrwydd.

Media

Y drydedd yw Cymryd sylw o’ch amgylchoedd. Byddwch yn ymwybodol o’r byd o’ch cwmpas a beth rydych chi’n teimlo, a myfyriwch ar eich profiadau i’ch helpu i ddeall beth sy’n bwysig i chi.

Media

Y bedwaredd yw Parhau i ddysgu. Efallai wrth roi cynnig ar rywbeth newydd, neu ailddarganfod hen ddiddordeb. Mae dysgu pethau newydd yn gallu bod yn hwyl a bydd yn gwneud i chi deimlo’n fwy hyderus.

Media

Yn olaf, Rhowch. Gwnewch rywbeth neis dros ffrind, neu ddieithryn. Gwirfoddolwch eich amser, ymunwch â grŵp cymunedol. Mae’n gallu bod yn foddhaus iawn gweld eich hun yn gysylltiedig â’r gymuned ehangach, ac mae’n creu cysylltiadau â’r bobl o’ch cwmpas.

Gallwch chi weld mwy o wybodaeth am y pum ffordd at les yma.

Diweddariad diwethaf: 04/04/2023