skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Os ydych chi’n methu gyrru, neu wedi gwneud y penderfyniad i beidio â gyrru rhagor, mae’n debyg eich bod yn defnyddio cludiant cyhoeddus neu’n dibynnu ar ffrindiau a’r teulu i fynd â chi i apwyntiadau, teithiau siopa a diwrnodau allan.

Mae argaeledd a chost cludiant cyhoeddus yng Nghymru, a pha mor rheolaidd mae ef, yn dibynnu’n fawr iawn ar ble rydych yn byw. Er bod gwasanaethau bysiau yn gyffredinol yn dda yn y dinasoedd a’r trefi mwy o faint, maent yn rhedeg yn llai aml mewn ardaloedd gwledig, ac weithiau dim ond unwaith neu ddwy yr wythnos (os o gwbl).

Mae Traveline Cymru yn darparu gwybodaeth am amserlenni trenau a bysiau ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am gansladau ac amhariad â gwasanaethau. Ffoniwch: 0871 200 22 33.

Mae Cyngor Teithio i’r Anabl (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor i bobl ag amrediad o anableddau gwahanol sy’n bwriadu defnyddio amrywiol ffurfiau o gludiant cyhoeddus, e.e. dal trên fel ddefnyddiwr cadair olwyn.

Teithio am ddim ar fysiau

Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn, yn anabl, neu os cawsoch eich anafu wrth wasanaethau gyda’r Lluoedd Arfog, ac yn byw yng Nghymru, mae’n bosibl bod gennych hawl i deithio am ddim ar fysiau o fewn Cymru.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar amser teithio, ac os ydych chi’n anabl, cewch chi ofyn am gerdyn cydymaith er mwyn i rywun gael teithio gyda chi ar deithiau bws. Gwnewch gais i’ch cyngor lleol am gerdyn teithio am ddim ar fysiau (bydd angen rhoi tystiolaeth eich bod yn gymwys).

Mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau bysiau’n gyfyngedig, cewch chi ddefnyddio’ch cerdyn teithio bysiau ar rai llinellau trên. Am fwy o wybodaeth ewch i Drenau Arriva Cymru.

Cludiant cymunedol

Mewn cymunedau lle nad oes unrhyw wasanaethau bws rheolaidd, mae elusennau a chyrff gwirfoddol wedi dod ynghyd i ddiwallu anghenion cludiant pobl leol.

Mae cludiant cymunedol yn cynnal llwybrau bysiau lleol i bobl sydd angen cyrraedd y gwaith, ysgol, apwyntiadau meddygol a hyd yn oed y siopau agosaf.

Mae CT Online (Saesneg yn unig) yn gadael i chi chwilio am gludiant cymunedol yn eich ardal chi.

Tacsis

Mae gan rai cwmnïau tacsi geir sy’n rhoi mynediad i gadeiriau olwyn, ac mae gan rai eraill gistiau mawr â digon o le ar gyfer cadair olwyn. Mae Accessible Countryside yn rhestru cwmnïau llogi preifat sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn yng Nghanolbarth (Saesneg yn unig), Gogledd (Saesneg yn unig) a De Cymru (Saesneg yn unig). 

Diweddariad diwethaf: 02/06/2016