Croeso i wefan Dewis Cymru
Tudalen hawdd ei deall yw hon. Mae’n dweud wrthych chi sut i ddefnyddio Dewis Cymru.
Defnyddio’r wefan hon
Mae ein gwybodaeth mewn Cymraeg clir. Nid yw’n wybodaeth Hawdd ei Deall.
Cefnogaeth i ddefnyddio’r wefan
Mae ein gwybodaeth mewn Cymraeg clir. Nid yw’n wybodaeth Hawdd ei Deall.
Efallai y bydd arnoch chi angen gofyn i rywun eich helpu:
- ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi.
Gallwch wrando ar y tudalennau trwy ddefnyddio rhywbeth sy’n cael ei alw’n ‘Browsealoud’. Mae hwn yn darllen yr wybodaeth sydd ar y dudalen i chi. Gallwch ddod o hyd i symbol ‘Browsealoud’ ar dop ochr dde pob tudalen.
Pan fyddwch chi ar dudalen wybodaeth fe fyddwch chi’n gallu cael gwybodaeth am wasanaethau sy’n agos atoch chi sy’n ymwneud â’r pethau rydych chi wedi bod yn darllen amdanyn nhw. Gallwch wneud hyn trwy glicio ar symbol chwyddwydr tuag at dop ochr dde y dudalen. Mae hwn ar y rhan fwyaf o’r tudalennau.
Gallwch geisio cael gafael ar wybodaeth trwy chwilio amdano.
Teipiwch y peth rydych chi am gael gwybodaeth amdano ar ochr chwith yr hafan ble mae’n dweud ‘chwilio’.
Gallwch roi côd post y lle rydych chi’n byw hefyd. Bydd hyn yn dweud wrthych chi pa wybodaeth sydd gennym ni a beth sydd ar gael i’ch helpu yn eich ardal leol.
Er enghraifft, os oes arnoch chi eisiau gwybod ble i gael cyngor ar fudd-daliadau, teipiwch ‘budd-daliadau’. Bydd Dewis Cymru yn chwilio am ganolfannau cyngor a gwybodaeth yn eich ardal a fyddai efallai’n gallu eich helpu.
Ar y wefan hon mae gwybodaeth am:
Mae bod yn iach ynglŷn â bod mewn iechyd da a theimlo’n dda amdanoch chi eich hun a’ch bywyd.
Mae bod yn gymdeithasol ynglŷn â chadw ffrindiau a chael perthynas dda â phobl. Gall hyn weithiau fod yn anodd am wahanol resymau.
Mae eich cartref yn lle ble dylech chi deimlo’n hapus a diogel. Weithiau mae ar bobl angen cefnogaeth i fyw gartref.
Mae’n rhaid i ni deimlo’n ddiogel. Os nad ydyn ni’n teimlo’n ddiogel fedrwn ni ddim ymlacio gartref na chael hwyl gyda’n ffrindiau. Os nad ydyn ni’n teimlo’n ddiogel efallai na fyddwn ni’n teimlo’n hyderus i fynd allan.
Mae arnon ni angen rheoli ein harian. Mae arnon ni angen arian ar gyfer ein cartrefi, i dalu ein biliau, i dalu am fwyd a gwneud gweithgareddau sy’n hwyl a chael gwyliau.
Mae gennym ni wybodaeth am fod yn rhiant. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth am ofal plant ac addysg a phethau pwysig eraill ar gyfer plant a theuluoedd.
7. Gofalu am deulu a ffrindiau
Os ydych chi’n helpu rhywun na allai ymdopi heb eich help, rydych chi’n ofalwr. Mae gennym ni wybodaeth ar gyfer gofalwyr am bethau fel hawliau gofalwyr a budd-daliadau.