skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

logo BSL

Easy Read logo

Sut i ddefnyddio Dewis Cymru


Mae llawer o wahanol ffyrdd o ddefnyddio Dewis Cymru i’ch helpu i feddwl am eich llesiant, a phenderfynu beth sy’n bwysig i chi.

Felly os credwch y gallai fod angen tipyn o help arnoch chi gyda’ch llesiant ond heb fod yn siŵr beth sydd o’r pwys mwyaf i chi, porwch drwy’r wefan. Mae gennym ni dudalennau am lesiant, bod yn gymdeithasol, bod gartref, bod yn ddiogel, rheoli’ch arian, plant a theuluoedd ac edrych ar ôl rhywun.

Ar y rhan fwyaf o dudalennau byddwch chi’n gweld chwyddwydr (tua brig y dudalen ar yr ochr dde) - cliciwch ar hwnnw a byddwn ni’n dweud wrthych chi am y gwasanaethau yn eich ardal chi sy’n gallu’ch helpu gyda’r pwnc rydych chi newydd fod yn darllen amdano.

Os ydych chi’n gwybod yn barod beth rydych chi’n chwilio amdano, defnyddiwch y cyfleuster chwilio ar ochr chwith y dudalen hafan a byddwn ni’n dweud wrthych chi pa wybodaeth sydd gennym ni a beth sydd ar gael i’ch helpu yn eich ardal chi.

Er enghraifft os ydych chi eisiau gwybod sut i gael addasiad i’ch cartref ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn, mae ond angen teipio ‘cadair olwyn’. Bydd Dewis Cymru yn chwilio am wybodaeth a fydd o gymorth i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac yn dweud wrthych chi am bobl, grwpiau a gwasanaethau yn eich ardal chi a fydd o bosib yn gallu eich helpu chi.

Efallai eich bod yn gwneud hyn i gyd ar ran rhywun arall, rhywun sydd ddim ar y rhyngrwyd o bosib. Felly mae Dewis Cymru yn ei gwneud hi’n hawdd iawn argraffu pethau, neu e-bostio canlyniadau’ch chwiliad i ffrind arall neu aelod o’r teulu sydd ar y rhyngrwyd.

Beth os bydda i’n methu dod o hyd i’r hyd rwy’n chwilio amdano?

O bryd i’w gilydd, efallai na fydd Dewis Cymru yn gallu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, ond os bydd hynny’n digwydd bydd yn dweud wrthych chi am rywun yn eich awdurdod lleol gallwch chi gysylltu â nhw i weld a oes modd iddyn nhw eich helpu.

A chofiwch, mae’r cyfeiriadur adnoddau’n tyfu’n gyson felly mae’n werth dod yn ôl o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd yn eich ardal chi.